
Cytiau Moethus y Canolbarth
Moethusrwydd Syml
mwynhewch ein
y ddihangfa berffaith
o brysurdeb bywyd modern
Rydyn ni eisiau rhannu'r hyn sydd gennym yma – moethau syml fel awyr lân, bryniau gwyrdd tonnog ac anifeiliaid yn byw yn eu cynefinoedd naturiol. Mae pob un o'n uned wedi'u hadeiladu'n bwrpasol, wedi'u gosod ymhell ar wahân, yn breifat ac yn cynnig golygfeydd gwych o'r dyffryn. Yn ogystal, ymlaciwch i sŵn y nant yn y cefndir yn llifo drwy'r safle.
Mae pob cut yn cynnig rhywbeth gwahanol
Gwnewch eich dewis - lleoliad clyd neu ddigonedd o le, cegin awyr agored, stôf llosgi coed, trydan, byw oddi-ar y grid, neu lonyddwch a golygfeydd breuddwydiol.
Cymerwch olwg isod a chliciwch i gael rhagor o wybodaeth am bob un.
Cut Bech
Cysgu 2
Mae gan Cut Bech dec mawr preifat caeedig gyda lle tân a thwb poeth sy'n llosgi coed, felly gallwch chi fwynhau'r awyr agored ymhell ar ôl iddi nosi.
Cut y Barcud Coch
Cysgu 2
Y lle perffaith i gyplau ail-gysylltu ar wyliau bach rhamantus. Ymlaciwch ac edrychwch i fyny ar y sêr o'ch twb poeth preifat.
Cut y Ddafad Ddu
Cysgu 2
Dyma ein hychwanegiad diweddaraf at deulu Cegir. Y mae'n berffaith i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored – gyda chegin allanol a ffenestr fawr i fwynhau golygfeydd o gefn gwlad Cymru ar ei orau.
cut mawr
Cysgu 4
Cut Mawr yw ein cut mwyaf, yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu gyplau sydd eisiau ychydig o le ychwanegol. Twb poeth hael ar y dec dwy haen.
Cut Cornel
Cysgu 2
Mae Cut Cornel oddi ar y grid. Dyma'r lle perffaith i ymlacio mewn caban bach clyd a chwaethus sy'n eich amgylchynu â synau tawel natur.
Beth mae ein Gwesteion yn ei ddweud
“Fe wnaethon ni fwynhau ein harhosiad yn y Cut Cornel! Roedd yn leoliad mor heddychlon. Ein hoff ran oedd eistedd a gwrando ar yr holl synau - yr adar (ychydig o dylluanod gyda'r nos hefyd!), y nant yn byrlymu, y defaid yn y pellter, a'r tân yn cracio. Roedden nhw'n anhygoel. Gallem fod wedi eistedd a gwrando am oriau!”
Rebekah – Airbnb
“Fe wnaethon ni archebu’r caban am arhosiad o 2 noson ac roedden ni mor hoff ohono nes i ni ymestyn ein harhosiad am noson arall. Yr oedd yn le mor brydferth y tu mewn a’r tu allan ac amgylchedd mor brydferth. Cawson ni ddiwrnod hyfryd yn ymweld â’r rhaeadrau lleol a diwrnod arall yn archwilio’r dref a’r traeth lleol. Byddwn ni’n ei argymell 100% os ydych chi’n chwilio am seibiant ymlaciol.”
Bradley – Airbnb
“Trysor llwyr o Air bnb, lleoliad rhyfeddol. Wrth eistedd ar y dec yn Cut Mawr a'r twb poeth, roedd gennym olygfeydd allan i ddyffryn Cymreig preifat, ŵyn ac ieir yn rhedeg o gwmpas, machlud haul hardd a dim llygredd golau, felly awyr serennog syfrdanol bob nos! Allwn i ddim argymell y lle hwn ddigon…”
Jeanette – Airbnb
Dianc i fwynder Maldwyn
Mae Gwyliau Cegir yn ddelfrydol ar gyfer penwythnosau rhamantus a gwyliau byr i ddianc gyda theulu a ffrindiau.
Rydym wedi ein lleoli yn Nyffryn Dyfi, yng nghefn gwlad canolbarth Cymru ger Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru. Mae'r ardal yn llawn hanes, gyda threftadaeth mwyngloddio llechi ddiddorol a harddwch naturiol, sy'n cynnig tawelwch a chyfle i gysylltu â natur.
Ewch i gael golwg ar y dewis o gytiau unigryw sydd gennym i'w cynnig a phethau i'w gwneud yn yr ardal.
Cytiau wedi'u crefftio â'u cynllunio ar gyfer moethusrwydd, cysur a phreifatrwydd
Mae Gwyliau Cegir y ffordd berffaith o ddianc rhag straen bywyd modern. Cafodd ein cytiau eu dylunio a'u hadeiladu gennym ni. Mae pob cut yn unigryw ac yn cyfuno steil gwledig Cymru â thechnoleg eco fodern. Y tu mewn, mae gwely cyfforddus, dodrefn clyd, stôf llosgi coed, cegin fach bwrpasol gyda sinc, ardal fwyta ac ystafell ymolchi. Y tu allan, eisteddwch ar eich dec preifat eich hun, mwynhewch farbeciw a golygfeydd cefn gwlad ysblennydd a chael eich tawelu gan sŵn y nant.