Teulu sy'n ffermio
Sioned ydw i, dwi'n ffermwr fel sawl cenhedlaeth o fy nheulu i ffermio yn Nant y Gaseg yma yng nghanolbarth Cymru. Dw i'n ffermio mewn partneriaeth gyda fy rhieni, Huw ac Eleri.
Dw i hapusaf pan dw i i fyny ar y ffriddoedd, ond rydw i hefyd wrth fy modd yn croesawu gwesteion i Cegir, lle mae'r cytiau – sef tyddyn bach lle bu ein teulu hynafol yn ffermio cenedlaethau yn ôl. Mae Cegir wedi'i leoli dafliad carreg o'n ffermdy. Mae ein mab, Huw Ifan, wrth ei fodd yn cwrdd â'n gwesteion hefyd… a gwerthu ei wyau ffres iddyn nhw!
Mae fy ngŵr Andy yn saer coed sydd â diddordeb mewn adeiladu 'cytiau'. Fe wnaeth Andy adeiladu'r pump uned sydd yma ar ein safle. Gyda phrofiad adeiladu Andy a niddordeb i mewn celf, rydym wedi ystyried pob manylyn i greu'r cartref perffaith oddi cartref. Dyma'r ddihangfa berffaith o fywyd modern prysur, i gael mwynhau tawelwch a chysur bryniau cefn gwlad Cymru.
Mae'n fusnes teuluol yma, gyda'r ddau ohonon ni, fy rhieni Huw ac Eleri, ein mab Huw Ifan, a'n neiaint, Sion a Deian i gyd yn helpu gyda gwahanol swyddi o amgylch y safle.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Gegir!
Sioned a'r teulu x
Croeso cynnes Cymreig i galon Canolbarth Cymru
Mae ein cytiau wedi'u lleoli ar fferm defaid a gwartheg yng nghanol Dyffryn Dyfi, ychydig y tu allan i dref farchnad Machynlleth. Rydym mewn lleoliad delfrydol i brofi'r gorau sydd gan Gymru i'w gynnig ac ond ychydig funudau i ffwrdd o Barc Cenedlaethol Eryri a thraethau prydferth Aberdyfi.
Os ydych chi eisiau cerdded mynyddoedd, archwilio'r traethau lleol neu ymlacio o flaen y tân, mae ein cytiau yn rhoi'r encil ymlaciol berffaith i chi.
Seibiant i pob tymor
Rydym ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae'r cytiau yn gynnes iawn yn y gaeaf ac yn gyfforddus yn yr haf. Mae pob tymor yn cynnig ei brofiad arbennig ei hun. Ymunwch â ni yn y gwanwyn a gwyliwch yr ŵyn bach yn chwarae yn y caeau. Yn yr haf, ymlaciwch ar y dec gyda gwydraid o win ac arogleuon y barbeciw wrth eich ymyl. Pan fydd y dail yn newid lliw a'r tywydd yn oeri, eisteddwch o flaen y tân a chwtsio dan flanced draddodiadol Gymreig gyda llyfr da.
Ewch oddi ar y grid
Mae Cut Cornel wedi'i gynllunio i gael yr effaith leiaf ar yr amgylchedd. Mae trydan yn cael ei gynhyrchu gan banel solar ac mae'n darparu digon o bŵer ar gyfer goleuadau a gwefru ffonau symudol trwy socedi USB.
Does dim signal ffôn na 4G o amgylch y cut, sy'n eich galluogi i ymlacio'n llwyr. Mewn byd sydd wedi'i gysylltu'n ormodol, mae datgysylltu oddi wrth dechnoleg yn weithred hanfodol ar gyfer hunanofal.
Fe wnaethom gynllunio Cut Cornel i fod oddi ar y grid er mwyn hyrwyddo'r profiad o fyw yng nghefn gwlad. Mae datgysylltu yn golygu gwrando ar synau naturiol, gwisgo'ch esgidiau cerdded, rhyddhau'ch chwilfrydedd a sylwi ar bob tymor.
Croeso i Gwn
Fel teulu sy'n caru cŵn, a pherchnogion Meilo, Fly, Meg a Teg y cŵn defaid, a Tango y Jack Russell bach, rydyn ni'n gwybod nad yw gwyliau yr un peth heb eich ffrindiau blewog. Rydym yn croesawu cŵn sy'n ymddwyn yn dda i ymuno â chi ar eich antur glampio.
Cysylltwch â ni
Eisiau gwybod mwy am aros gyda ni, neu oes gennych unrhyw gwestiynau? Mae croeso i chi gysylltu, dros y ffôn neu gan ddefnyddio'r ffurflen yma.
Ffoniwch 07890 855 776 / 07970 606 510