Cut y Barcud Coch

The red kite hut

Cysgu 2

Mae Cut y Barcud Coch yn caniatáu ichi aros ynghanol byd natur, mewn steil!

Mae'r cut bugaill hwn yn caniatáu i chi fyw'n syml ond hefyd gyda steil! Gyda gwresogydd dan y llawr, twba poeth mawr ar y dec a barbeciw nwy yn yr ardal gegin awyr agored dan do, beth well sydd ei angen? Mae rhain i gyd yn edrych dros gaeau gwyrddlas a llethrau coediog cefn gwlad. Pan fyddwch chi wedi gorffen gyda'r holl awyr iach, mae teledu clyfar ar gael i chi tu mewn. Ymlaciwch, dadflinwch a mwynhewch!

Cwt bugeiliaid metel gwyrdd gyda ffenestri â fframiau gwyn mewn tirwedd fryniog, ffrwythlon, yn cynnwys dec awyr agored gyda thwb poeth, seddi a phlanhigion mewn potiau.

Cyfleusterau

- Gwely dwbl
- Gwresogydd dan y llawr
- Hob seramig
- Microdon
- Oergell fach
- Cawod a thoiled en-suite
- Ardal dec gaeedig fawr
- Lle i eistedd tu allan a phwll tân
- Barbeciw nwy mewn cegin allanol dan dô
- Teledu clyfar
- Wi-Fi
- Twba poeth
- Croeso i gŵn

  • Y tu mewn i'r holl gytiau bydd gennych y canlynol:

    • Dillad gwely ffres (Dewch â'ch dillad gwely eich hun ar gyfer y soffa yn Cut Mawr)

    • Tywelion (dau dywel llaw a dau dywel bath)

    • Cyllyll a ffyrc

    • Agorwr tuniau

    • Agorwr poteli

    • Cyllyll

    • Siswrn

    • Sosbannau

    • Platiau a bowlenni

    • Lliain

    • Papur toiled

    • Barbeciw nwy ar ardal dec gaeëdig

    • Pwll tân

  • Mae 'Siop Gonestrwydd' fach ar y safle ar gyfer rhai hanfodion fel pethau ymolchi, byrbrydau a malws melys.

    Mae gennym ieir ar y safle, felly gallwch brynu wyau ffres yn ddyddiol.

    Gallwch ddefnyddio taliad digyswllt yma hefyd.

  • Rydym yn darparu swp cychwynnol o goed tân ar gyfer y cytiau sydd â stôf a/neu'r tybiau poeth sy'n cael eu llosgi â choed.
    Os oes angen coed tân ar gyfer y pwll tân tu allan arnoch gallwch ddefnyddio'r siop fach i brynu coed am £5 y bag.

  • Mae llawer o westeion yn dod yma am y syniad o 'wneud dim byd' heblaw ymlacio…

    Er ei bod yn heddychlon a thawel yma, mae mwy na digon i'w wneud ac archwilio mewn gwirionedd! Cymerwch olwg ar ein tudalen ' Archwiliwch yr ardal ' i gael ychydig o syniadau.

  • Cewch - am ddim! Mae croeso cynnes i gŵn yma.

  • Cewch gyrraedd o 4.00yh ymlaen.
    Rhaid gadael erbyn 9.00yb (11.00yb ar ddydd Sul)

    Bydd eich llety ar agor i chi pan gyrhaeddwch.